Wnaeth Sarah Hawkes, Swyddog Cadwraeth yn gweithio gyda Buglife ar brosiect Prif y Cerrig, treulio Ebrill a Mai yn chwilio am y rhywogaeth darged gwibiog fel rhan o waith arolygu rheolaidd Natur am Byth.
Cadwodd dyddiadur o'i darganfyddiadau trwy gydol y tymor hwn fel y gallai dilynwyr ei gweld ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Roeddem o'r farn bod y cofnodion hyn yn cynnig cipolwg gwych ar fywyd dydd i ddydd ein swyddogion a'r gwaith maen nhw'n ei wneud i helpu'r rhywogaethau mwyaf bregus yng Nghymru, felly gawsom ni syniad i’w casglu yma i bawb eu gweld. Mwynhewch!
Dwi’n amau a fydd gan bryfed y cerrig fyth yr un apêl ag ŵyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae tymor cofnodi pryf y cerrig Isogenus nubecula ar y gweill ac ar hyd afon Dyfrdwy ry’n ni’n dechrau gweld y pryfed yn eu llawn dwf (tua 2 cm o hyd, yn hir ac yn dywyll). Os gwelwch chi un sy’n edrych yr un fath, rhowch lun yma neu mewn neges!).
Maent yn brin iawn a dim ond ar hyd afonydd Dyfrdwy a Cheiriog yn Sir Wrecsam y maent i’w gweld yn y DU, cyhyd ag y gwyddom ni.
Er hynny, rydw i’n mynd i lawr i afon Hafren ger y Trallwng i gael cipolwg, rhag ofn.
Croesi bysedd!
A’r peth gorau yw eu bod nhw’n hawsaf i’w gweld ar bontydd a physt ffensys yn yr heulwen!
Roedd y daith i afon Hafren gyda fy ffrind Clare Boyes, sy’n arbenigo ar wenyn Andrena, yn bleser pur, er ei bod bron iawn yn siwrnai seithug o ran dod o hyd i bryfed y cerrig. Roeddwn i’n chwilio ar bontydd am exuvia a gafodd eu diosg wrth i’r nymffau drawsnewid yn oedolion – gan obeithio y gellid fod wedi methu poblogaeth o bryf y cerrig Isogenus nubecula. Roedden ni’n crwydro glannau’r afon yn ceisio darganfod pa bontydd oedd yn hygyrch i’r de o’r Trallwng.
Rydyn ni’n gwybod yr ateb i ryw raddau, ond mae’n well gwneud yn siŵr drosoch eich hun. Roedd yr afon yn Aberriw yn brydferth a chawsom amser hyfryd yn cerdded yn y dŵr yn edrych am bryfed y cerrig ar y waliau. Fe wnaethon ni ddod o hyd i un Brachyptera risi byw ac exuvia Perlodes.
Fodd bynnag, ar bontydd eraill heblaw am bont a thraphont ddŵr Aberriw, mae planhigion goresgynnol – yr efwr enfawr, clymog Japan a jac y neidiwr – wedi gafael go iawn ac mae’r efwr yn arbennig yn golygu ei bod hi’n anodd iawn cerdded ar y glannau.
Ddydd Gwener treuliais y bore ar Bont Dyfrdwy ym Mangor Is-coed yng nghwmni David Andrews, a ysgrifennodd bapur cynnar, a gyhoeddwyd ym 1984, ar ddod o hyd i bryf y cerrig Isogenus nubecula yn afon Dyfrdwy.
Roeddwn i wedi bod i lawr yn gynharach ac wedi casglu’r exuvia oedd yn weddill o’r bont (llun gan Mary Thompson o ymweliad blaenorol yn casglu exuvia) – lle gwnes i ddarganfod nad oedd nemor ddim wedi dod i’r amlwg dros yr wythnos flaenorol, felly mae’n rhaid eu bod nhw wedi gorffen dod i’r amlwg o’r afon nawr.
Yna fe ges i amser diddorol am weddill y bore yn mwynhau straeon am bopeth yn gysylltiedig ag afonydd o yrfa David yn edrych ar afonydd, yn cynnwys yr achosion o lygredd yn afon Dyfrdwy dros y blynyddoedd (o ffenol a achosodd i ddŵr lifo o’r tapiau a oedd yn cynnwys yr hyn oedd yn gyfystyr â ‘TCP’, i faidd a laddodd gannoedd o bysgod trwy achosi gordyfiant bacterol ac a oedd yn anodd ei adnabod oherwydd nad oedd yn docsin, fel y cyfryw, ond yn faethyn).
Roedd llawer mwy o straeon yn gwbl ddiddorol ac yn arbennig o werthfawr i mi, sydd ond wedi ymwneud o ddifrif â phryfed cerrig ac afon Dyfrdwy yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Dydd Sul ym Mangor Is-coed yn chwilio am bryf y cerrig Isogenus nubecula ar hyd yr afon gydag Alan o acwariwm Sw Caer. Fe ddaethon ni o hyd i wenyn mêl, buchod cwta amryliw, chwilod gwern, pryfed hofran (gan gynnwys un a oedd wedi dioddef ymosodiad ffwngaidd), pryfed tail melyn a gwybedyn Mai bach tlws, tywyll, melynresog, ond dim un pryf y cerrig dros deirawr.
Roedd hi ychydig yn rhy wyntog efallai? Ond dw i’n hoffi meddwl ein bod ni wedi mireinio ein techneg o ran chwilio (!) Rydyn ni’n siŵr eu bod nhw yno. Mae gennym ni’r crwyn coll y gwnaethon nhw ddiosg....ond ble maen nhw?
Rydyn ni wedi siarad â llawer o bobl oedd allan am dro neu’n cael peint yn y dafarn ar lan yr afon – digon o bobl â thaflenni aiff o bosib allan i chwilio. Mae hynny’n ganlyniad.
hwrê!!! Am y tro cyntaf eleni, rydym wedi dod o hyd i’n pryf y cerrig Isogenus nubecula sy’n oedolyn! Roedd Alan o acwariwm Sw Caer a minnau’n chwilota ar hyd y lan. Roeddwn i wedi dod o hyd i bryf y cerrig Perlodes (sydd ychydig yn fwy ac yn fwy cyffredin), pan hedfanodd un Isogenus nubecula drosodd a glanio ar fy nghoes.
O’r fan honno, fe ddaethon ni o hyd i lawer mewn ardal fach a’u gwylio nhw’n glanio ar weiriau, weithiau’n hedfan ychydig i ffwrdd. Buon ni’n gwylio ac yn dyfalu pam y gallen nhw fod yn gwneud yr hyn yr oedden nhw’n ei wneud, ac fe gadwodd hynny ni’n brysur am amser hir. ( )
Fe wnaethon ni hefyd ddal wyth i recordio’r ‘drymio’ maen nhw’n ei wneud i alw ar ei gilydd. (Roedd hynny’n dipyn o antur ynddo’i hun. Llwyddais i roi dau mewn tiwb gyda’i gilydd oedd o wahanol rywiau – nid dyna oedd y cynllun rhag ofn y byddai’r paru dilynol yn golygu na fydden nhw mewn hwyliau drymio!)
Ar ôl eu dal, roedd gen i dipyn o broblem. Doeddwn i ddim wedi gallu goddef y syniad o archebu bocsys cardfwrdd gwag ar-lein am swm afresymol yr un, felly doedd gen i ddim byd yn barod fel stiwdio recordio!
Ar y ffordd adref, stopiais yn siop Stan’s i edrych, gan feddwl efallai am brynu bocsys matsis mawr. Yn ffodus, wrth i mi gerdded i mewn, roedd pentwr o becynnau grawnfwyd bach ar gael. Maint perffaith ac yn ddigon glân i fwyta bwyd ohonynt felly’n ddiogel i bryfed y cerrig fyw ynddynt am noson neu ddwy cyn mynd yn ôl i’r afon!!
Gyda’r recordydd yn ei le a’r pryfed y cerrig yn drymio (ddim mor gyffrous ag y mae’n swnio – ychydig o dapiau tawel – hyd at chwech – bob hyn a hyn), roedd gen i’r recordiad roeddwn i ei eisiau.
Mae gen i wyth pecyn bach o rawnfwyd ar ôl a stiwdio sain ar gyfer pryfed y cerrig – dwi ar fy ennill!
Ar ôl dwy noson o recordio sain gyda fy ngrŵp bach o ddrymwyr, mae’r drymwyr wedi mynd yn ôl i’r afon ac mae eu curiadau wedi mynd i ffwrdd i’w dadansoddi. Wrth eu trosglwyddo, roeddwn i’n gallu gwrando ar rythmau rhywogaeth arall o bryfed y cerrig – ddim uwch, ond yn llawer cyflymach na phryf y cerrig di-lol Isogenus nubecula ac yn fwy byrlymus. Rwy’n gofyn i Tim fynd ati i lunio’i gân nesaf sy’n cynnwys pryfed!!
Daeth Imogen a Katie o’r adran chwilod yn y sw allan i’r afon am gwpl o ddiwrnodau a gyda’n gilydd fe ffilmion ni lawer o’r pryfed y cerrig yn paru, yn chwilio am laswellt ac yn setlo ar goed a chawsom rai delweddau o’r llu o wyau. Rwy’n gobeithio cael lluniau gwell o’r olaf os gallwn ni fod yn ffodus gyda’r tywydd a dod o hyd i fwy o anifeiliaid yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Daeth Alan, Mel a Kaitlyn draw ddoe i helpu i chwilio afon Ceiriog, ond dwi heb gael lwc hyd yn hyn a dwi ddim wedi gallu cyrraedd y bont i weld a oes unrhyw exuvia ar y waliau – mae’r dŵr yn rhy ddwfn hyd yn oed i rydyddion! Fe wnaethon ni ddod o hyd i chwilen olew fioled hyfryd, a phryf giachog tlws yn un o safleoedd afon Dyfrdwy!
Aeth Imogen o Sŵ Caer a finnau i hela am bryfed y cerrig Isogenus nubecula gyda’r nos ar y diwrnod oeraf ers oesoedd ar ôl rhew yn gynnar y bore yma. Roedd y rhagolygon yn iawn, ond ddim yn ysbrydoledig, felly cael a chael oedd hi a fedrwn gyfiawnhau gofyn am wirfoddolwyr, felly cymerais Eira y ci fel cydymaith rhag ofn nad oedd dim byd arall i edrych arno. Mewn gwirionedd, fe wnaethon ni ddod o hyd i 24 pryf y cerrig Isogenus nubecula yn y coed, ac roedd chwech ohonynt yn barau paru. Mae mor braf gallu edrych arnyn nhw a’u gwylio, gan wybod nad oes bron dim yn hysbys am eu hymddygiad.
Gallwn ofyn y cwestiynau mwyaf naïf i ni’n hunain ac maen nhw yr un mor ddilys ag unrhyw rai eraill. Dyna’n wir beth yw pwrpas arolwg eleni – edrych ac ystyried pam, yn barod i fynd ar drywydd gyda chwestiynau wedi’u targedu’n well y flwyddyn nesaf.
Dyddiaduron Pryfed Cerrig: Mae hi bron â chanu ar y pryf cerrig Isogenus nubecula, mae llai a llai ohonyn nhw bob tro dwi'n ymweld. Ddydd Gwener roedd hi'n hyfryd cael Justin Williams, naturiaethwr lleol, draw i weld anifail prinnaf Wrecsam. Ar ôl chwilio am ychydig, fe lwyddon ni yn y diwedd i ddod o hyd i rai o'r ychydig bryfed olaf yn y coed a'r ysgall.
I lawr wrth Afon Dyfrdwy nawr tro'r Gwybed Mai yw hi. Mae Ephemera danica yn dawnsio'n fertigol, i fyny ac i lawr dros lan yr afon, mae Gwybed Mai Baetis fuscatus bregus yn setlo ar y llystyfiant, mae Pryfed y Gwern, Chwilod Clec a Llifbryfed i gyd yn dod allan i gymryd eu lleoedd wrth i'r tymor symud ymlaen.
Fydd hi ddim yn hir nawr cyn y gallwch chi weld y Gwybedyn Mai Potamanthus luteus sydd newydd symud i'r Gogledd i Afon Dyfrdwy - yr holl ffordd o Afon Wysg yn y De - yn dilyn yr hinsawdd sy’n cynhesu.
Dyddiaduron pryfed cerrig: Ar ôl treulio'r mis diwethaf a mwy (tymor hedfan y pryfed cerrig sydd o ddiddordeb penodol i mi - Isogenus nubecula) ar hyd glannau Afon Dyfrdwy yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ar lwybrau troed wrth ymyl tir pori a glannau afonydd serth, rwy'n cytuno'n llwyr mai ffermio, a diwydiant, gyda’n cefnogaeth ni fel defnyddwyr sy'n creu galw, yw'r allwedd i adferiad natur a dyfodol cadarnhaol. Wrth gwrs, rwy'n cynnwys ein dŵr yfed ac ardaloedd chwarae’r afonydd yn ogystal â chynefinoedd ar gyfer y bioamrywiaeth yr ydym yn dibynnu arnynt i gadw ein hafonydd yn iach.
sydd wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd ymarferol yn ei faes drwy'r cyfnod tywyll hwn i gynhyrchu bwyd iach a chefn gwlad iach. Rydw i wedi edmygu ei lyfrau a'i safbwynt ers tro byd.
Ar hyd afon Dyfrdwy mae yna rai arferion rhagorol a rhai cyfleoedd gwych i wella allbynnau anifeiliaid yr afon a ffermydd, yn ogystal â gwydnwch yn erbyn newid hinsawdd.
Oeddech chi'n gwybod bod pryfed afon, sy'n meddiannu cymaint o gilfachau yn yr afon ac o’i chwmpas yn ystod eu tymhorau hedfan, yn hanfodol i sefydlogrwydd gwely'r afon a'r glannau? Mae dirywiad mewn bioamrywiaeth oherwydd gweithgareddau pobl yn achosi problemau, ond yn ffodus, mae gan infertebratau, pryfed a microbau pridd fecanweithiau i ymadfer a'n cynnal ni i gyd. Mae'n rhaid i ni ofalu am ein tirwedd a'n hafonydd gyda pharch at fywyd a'u galluogi i fwrw ymlaen â'u bywydau heb wenwynau niweidiol.
Dydyn ni ddim ar ein pennau ein hunain.
Nawr bod tymor yr arolygon wedi dod i ben, rydw i wedi dechrau 'digwyddiadau ymgysylltu' yr haf ar gyfer y pryf cerrig Isogenus nubecula gyda diwrnod yn mynd â Myfyrwyr Celfyddydau Cain Prifysgol Wrecsam i afon Dyfrdwy. Fe wnaethon ni gerdded ar hyd y glannau, edrych ar infertebratau a'r afon, trafod eu syniadau ar gyfer gweithiau celf (a'u creadigaethau cyntaf rhyfeddol) sy'n dehongli eu meddyliau am ecoleg pryfed ac aethon ni ar hyd yr afon cyn belled â safle nythu gwenoliaid y glennydd.
Dywedodd Debbie, gan edrych ar bryfyn ar bostyn ffens, ‘Beth yw hwn?’ ‘Isogenus nubecula,’ atebais i.
Daeth Tracy o hyd i un hefyd ac mewn dim o dro roedd 4 pryfyn cerrig yno (5 o bosib ond efallai bod un wedi dod draw aton ni eilwaith)!
Roedd fy rhagfynegiad hyderus o ddiwedd y tymor yn amlwg yn bell ohoni ac fe ges i fy nal yn fy magl fy hun!: Sawl gwaith ydw i wedi ateb cwestiynau gwirfoddolwyr gyda 'Dydyn ni ddim yn gwybod yr atebion eto ond dyna lle gallwch chi helpu'!!? Felly, dyma ni ym mis Mehefin. Yn 2024 gwelwyd y pryfyn olaf ar 6 Mai, eleni roeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi gweld yr un olaf ar 23 Mai.
Ond roedd gan y pryf cerrig hwn syniadau eraill ac mewn eiliad o lwc, roedd y myfyrwyr celf hyfryd wedi camu’n llawen i mewn i’r gwagle gwirfoddoli! Am ddiwrnod gwych i ni i gyd. Ac yn goron ar y cyfan - nid bod angen un - fe ddaethon ni o hyd i larfâu Gwybed Mai Potamanthus mawr yn y samplau cic (pan oeddwn i'n dangos ein dulliau arolygu iddyn nhw), yn barod i ddod i'r amlwg fel is-imagoaid yn eu cam datblygu nesaf. (Rhywogaeth darged arall ar gyfer y prosiect hwn, sydd ar fin dod yn bryf afon sy’n hedfan!)