Skip to content
close up shrill carder bee

Y Gardwenynen Feinlais

Un o brosiectau Natur Am Byth yw prosiect Achub y Gardwenynen Feinlais yng Nghymru, sy’n cael ei arwain gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn. Mae’r prosiect yn arwain y ffordd yn yr ymdrech i warchod y gacynen sydd o dan y bygythiad mwyaf yn y DU, sef y gardwenynen feinlais.

Dim ond mewn poblogaethau bach y gellir dod o hyd i’r gardwenynen feinlais bellach, gan gynnwys mewn tri safle hollbwysig yn Ne Cymru: yn Sir Benfro, Gwastadeddau Gwent a Chynffig. Mae’r gardwenynen feinlais, y gellir ei hadnabod drwy ei grŵn sydd â thraw uchel nodedig, yn un o’r rhywogaethau lleiaf o gacwn, ac y mae wedi prinhau dros y degawdau diwethaf o ganlyniad i golli a darnio cynefinoedd hanfodol llawn blodau. Mae’r ychydig boblogaethau sydd ar ôl wedi’u hynysu’n gynyddol oddi wrth ei gilydd, ac mae’r gardwenynen feinlais bellach yn agored i fewnfridio a cholli amrywiaeth genetig, gan gynyddu’r risg y bydd yn diflannu’n lleol.

Mae tîm prosiect y gardwenynen feinlais hefyd yn gweithio i warchod y chwilen olew gwddf byr (Castellmartin), gold y môr a’r fioled welw.

Mewn cydweithrediad â phartneriaid y prosiect, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gwent, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac awdurdodau lleol, mae’r tîm yn gweithio gyda thirfeddianwyr, gan roi cyngor a hyfforddiant i sicrhau arferion rheoli cynaliadwy parhaus. Mae’r gweithgarwch hefyd yn cynnwys newidiadau i drefniadau pori a thorri gwair, gan greu ardaloedd mwy o faint a mwy rhyng-gysylltiedig o gynefinoedd blodau gwyllt.

Fodd bynnag, nid cadwraeth yn unig yw amcan Natur am Byth. Un o nodau hanfodol y prosiect yw sicrhau bod pobl ledled Cymru yn teimlo eu bod yn perthyn i fyd natur, yn ei fwynhau ac yn gofalu amdano. Mae’r tîm yn cyfathrebu â’r cyhoedd a chymunedau, gan ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd ledled Cymru yn y rhywogaeth brin hon.

NODER: Mae prosiect y gardwenynen feinlais yn cydweithio’n agos â phrosiectau eraill Natur am Byth, gan gynnwys Bae Abertawe – Yr Arfordir, Tir Comin a Chymunedau, Gweithredu dros Wiberod a phrosiect y fritheg frown.