Skip to content

Ein Gweledigaeth

Mae partneriaeth Natur am Byth yn rhaglen Adfer rhywogaethau llyngesydd Cymru. Mae'n uno naw elusen amgylcheddol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddarparu rhaglen etifeddiaeth naturiol ac estyn allan mwyaf y wlad i achub rhywogaethau rhag diflaniad ac ailgysylltu pobl efo natur.

Pwy ydym ni

Partneriaeth Natur am Byth yw prosiect adferiad gwyrdd blaenllaw Cymru. Mae'n dod â naw elusen amgylcheddol a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghyd i gyflwyno rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub nifer o rywogaethau rhag diflannu ac i ailgysylltu pobl â natur.

Bydd ein partneriaeth yn creu gallu sydd fawr ei angen yn y sector treftadaeth naturiol i achub rhywogaethau sydd dan fygythiad. Trwy weithio gyda'n gilydd, byddwn yn creu ton newydd o lysgenhadon natur a dathlu ‘cynefin’ – y dreftadaeth naturiol unigryw sy'n sail i gymunedau ledled Cymru.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol dyfarnwyd dros £4.1m o'r Gronfa Treftadaeth i'r bartneriaeth ym mis Mehefin 2023.

Cydnabuwyd yr angen hwn am fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru trwy ymrwymiad i Natur am Byth gan y Prif Weinidog a chyllid arian parod.

Mae Natur am Byth yn rhannu'r un partneriaid â'n prosiectau adfer rhywogaethau yn Lloegr a’r Alban – sef Back from the Brink a Species on the Edge. Mae dysgu oddi wrthyn nhw, ynghyd â gwerthusiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o’u gwaith, wedi bod yn amhrisiadwy wrth i ni lunio datblygiad Natur am Byth.

Mae ein gweledigaeth 20 mlynedd yn gweld dyfodol i Gymru lle:

  • bydd pobl a bywyd gwyllt yn ffynnu ochr yn ochr â'i gilydd mewn cynefinoedd sy'n adfer
  • bydd pobl o bob cefndir yng Nghymru yn teimlo eu bod yn perthyn i fyd natur, yn ei fwynhau ac yn gofalu amdano
  • bydd sefydliadau o bob rhan o gymdeithas Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ofalu am natur a gwerthfawrogi'r buddion y mae eu cymuned yn eu cael ohoni
  • bydd gennym sector gwydn ym maes cadwraeth natur, yr amgylchedd a rheoli tir sy'n cydweithio i wneud mwy o wahaniaeth i rywogaethau fel rhan o ecosystemau iach

O ganlyniad i'n rhaglen, byddwn:

  • wedi rhoi’r risgiau i rywogaethau sydd dan fygythiad ar yr agenda ac wedi dangos pam fod hyn yn bwysig
  • wedi dangos sut i achub y rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl yn ein cenedl ac wedi eu helpu i'w hadfer trwy ecosystemau gwydn
  • wedi ysbrydoli pobl o bob cefndir yng Nghymru i gymryd camau gweithredu ac wedi ysgogi cymunedau amrywiol i ofalu am y bywyd gwyllt sydd ar stepen eu drws
  • wedi helpu i greu ton newydd o lysgenhadon ac ymarferwyr cadwraeth
  • wedi cydweithio er mwyn darganfod datrysiadau i'r problemau mwyaf dybryd ym maes cadwraeth rhywogaethau yng Nghymru

Ein Partneriaid

partners

Cyllideb

Mae'r bartneriaeth wedi cyllidebu £8 miliwn ar gyfer cyfanswm cost y prosiect. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym wedi sicrhau cyllid cyfnod cyflawni o £4.1m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae CNC wedi cyfrannu £1.7m ac mae partneriaid Natur am Byth wedi sicrhau £1.4m pellach gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a rhoddwyr corfforaethol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion gan Sefydliad Esmée Fairbairn ac Ymddiriedolaeth Elusennol Banister, ynghyd â chymorth sylweddol gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Cronfa Trefftadaeth Loteri Genedlaethol

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru

Esmée Fairbairn Foundation

Llywodraeth Cymru

3cb905e2-63da-49a7-86c1-a7e1b0602a33