Ym mis Mai 2025, croesawodd Natur am Byth dri hyfforddai cadwraeth newydd i gynorthwyo gyda'n gwaith parhaus i ddiogelu'r rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru. Nawr, ar ôl dau fis (ac ychydig!), mae Lindsey Thomas, sy'n gweithio gyda Buglife ar brosiect Bae Abertawe – Yr Arfordir, Tir Comin a Chymunedau, yn edrych yn ôl ar waith diweddar y mae wedi'i wneud ar gyfer y rhaglen:
Dwi’n sefyll 800m i fyny ar ddiwedd llwybr sgri uwchlaw Cwm Idwal , ac alla i ddim peidio â meddwl yn ôl ar sut mae fy mywyd wedi newid yn y mis diwethaf. Am y chwe blynedd diwethaf, fe fuais i’n gweithio mewn warws tra ro’n i’n astudio am radd gyda’r Brifysgol Agored, ac ar ôl graddio, dechreuais i ar y daith o geisio dod o hyd i swydd ym maes cadwraeth, sy’n faes arbennig o gystadleuol.
Yna un diwrnod, yn fy swydd warws ddiflas, fe ges i e-bost. Roedd gen i gyfweliad! Fe es i yno, ac yna, yn rhyfeddol, ces i gynnig y swydd! Sy’n dod a fi i ble rydw i nawr, yn sefyll ar ben mynydd, yn edrych allan dros dirwedd anhygoel Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru.
Mae’r olygfa’n syfrdanol; islaw mae dyfroedd disglair Llyn Idwal, i’r chwith mae yna ddyffryn rhewlifol ysgubol, ac i’r dde mae copaon uwch byth y mynyddoedd mawr. Roedd cyrraedd mor uchel i fyny â hyn yn her, i mi yn fwy nag i’m dau gydweithiwr iau dan hyfforddiant a’n tywysydd arbenigol o Plantlife. Her, ond yn werth yr ymdrech, nid yn unig am yr olygfa anhygoel, ond hefyd er mwyn gweld y rhywogaethau prin sy’n byw yn y dirwedd wyllt a garw hon.
Mae clogfeini enfawr wedi’u gwasgaru ar hyd y llethr, ac ar ben pob un mae haen o blanhigion sydd wedi addasu’n arbennig i gyfansoddiad y graig maen nhw wedi ymgartrefu arni. Mae hyd yn oed y silffoedd bychain onglog sydd wedi’u gwasgaru ar hyd y clogwyni serth yn gyforiog o blanhigion, yn cynnwys coed sy’n mentro codi eu canghennau main dros ddibyn gwirioneddol frawychus.
Mae pob un o’r llecynnau hyn o fywyd yn gymuned unigryw, wedi’i datgysylltu i raddau helaeth oddi wrth y cymunedau o’u hamgylch, yn debyg i ynysoedd bychain yn yr awyr. Mae nifer dirifedi o blanhigion prin yn goroesi yn yr amgylchedd hwn, fel y planhigyn cynhanesyddol a rhyfeddol o flewog, y cnwpfwsogl corn carw, neu’r blodyn eiconig ac arbennig o hardd, lili’r Wyddfa. Mae’r dirwedd hefyd yn frith o blanhigion cigysol brodorol, er enghraifft tafod y gors, planhigyn twyllodrus o dlws â’i flodau porffor trawiadol yn hongian dros ddail gludiog, a’r gwlithlys disglair sy’n maglu unrhyw bryfyn sy’n mentro’n rhy agos.
Mae Cwm Idwal hefyd yn adnabyddus am ei gasgliad o blanhigion tormaen, teulu o blanhigion blodeuol sydd i’w cael mewn ardaloedd mynyddig ar draws hemisffer y gogledd, ond y mae rhai o’i rywogaethau mwyaf prin ar draws y DU ond i’w cael yma yn Eryri.
Rhywogaeth arall sy’n brin yn genedlaethol ond sy’n gymharol niferus yma yw’r gacynen bitw fach a charismatig, cacynen y llus, Bombus monticola, sy’n ffafrio cynefinoedd ucheldirol. Prin yn gentimetr o hyd ar ei mwyaf, mae ei gwylio’n mynd yn ddiwyd o un blodyn i’r llall yn bleser o’r mwyaf.
Dwi i wedi dysgu llawer ar y daith hon, o hanes y dirwedd i bwysigrwydd pori ar gyfer bioamrywiaeth, a gwytnwch byd natur. Dwi hefyd wedi dysgu bod angen ein help ni ar rywogaethau sydd dan fygythiad er mwyn iddynt adfer a ffynnu, sy’n genhadaeth i Natur am Byth! ac yn ymdrech mae gen i’r fraint o fod yn rhan ohoni. Cyn bo hir fe fydda i’n teithio’n ôl i’m milltir sgwâr yn Ne Cymru, ac alla i ddim aros i weld pa bethau cyffrous sy’n aros i mi eu darganfod.