Skip to content
close up of rainbow beetle

Tlysau Mynydd Eryri

Mae copaon uchel Eryri yn gynefin i 59 o’n 152 o blanhigion mynydd cydnabyddedig, ac infertebratau mynyddig prin. Yn anffodus, mae llawer o’r rhywogaethau hyn o dan fygythiad difrifol yng Nghymru.

Gor-gasglu yn oes Fictoria sy’n rhannol ar fai, ond mae tri ffactor modern hefyd yn peri perygl amlwg ar hyn o bryd: newid ym mhatrymau defnydd tir (systemau pori, hamdden a thwristiaeth amhriodol), dyddodiad cynyddol o nitrogen a gludir yn yr awyr, a newid yn yr hinsawdd. Mae’n debyg y caiff pob un ei waethygu gan ‘dagfeydd’ genetig.

Mae gobaith

Bydd prosiect Tlysau Mynydd Eryri yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, tywyswyr mynydd, garddwriaethwyr, sŵau, rheolwyr tir ac ecolegwyr yr ucheldir i adfywio poblogaethau ein rhywogaethau targed. Byddwn yn dod â chopaon y mynyddoedd, yn drosiadol, i lawr y llethrau fel y gall cynulleidfaoedd newydd ymgysylltu â’r trysorau anhygyrch hyn. Gydag ein partner, Plantlife, feyflawnir hyn ar ffurf tair thema:

  1. Chwilio am Dlysau ac Enfys

Mae Eryri yn dirwedd sy’n llawn chwedlau am dywysogion a brenhinoedd, dreigiau a thrysorau, ac yn ffrwd o nwyddau gwerthfawr megis aur, arian a chopr. Mae lle i’r holl bethau hyn, ac eto nid oes yr un yn fwy gwerthfawr na’r rhywogaethau hynny sydd wedi bod yma hiraf.

Bydd Tlysau Mynydd Eryri yn casglu’r data mwyaf cyfredol o ran ‘ble, beth a sut’ ar gyfer y rhywogaethau hynny, gan arwain ein gweithredoedd a chreu llinell sylfaen ar gyfer mesur yr effaith yr ydym yn ei chael.

Byddwn yn creu grŵp o wirfoddolwyr i gofnodi, arolygu ac eirioli ar gyfer planhigion mewn mannau anodd eu cyrraedd – Criw Garw Cymru. Bydd Criw Garw Cymru yn casglu data ac yn gweithredu fel llysgenhadon trwy ymgysylltu â’r cyhoedd a defnyddio adnoddau digidol. Yn hollbwysig, bydd y criw yn diogelu’r sgiliau arbenigol sy’n hanfodol i ddyfodol ein rhywogaethau ar gyfer y dyfodol.

Bydd map cynefin newydd ar gyfer chwilen yr Wyddfa (a gaiff ei hadnabod fel ‘rainbow beetle’ yn Saesneg) yn llywio gwaith arolwg gan wirfoddolwyr o grwpiau awyr agored LHDTC+, aelodau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ecolegwyr. Bydd Tlysau Mynydd Eryri hefyd yn datblygu techneg arolwg newydd gan ddefnyddio eDNA ar gyfer cragen bysen yr Arctig.

  1. Adferiad Eryri

Mae amser yn elfen bwysig i dirwedd Eryri. Mae deall ein rhywogaethau yng nghyd-destun amser yn ein helpu i ddeall eu gorffennol a’r potensial ar gyfer eu dyfodol.

Bydd Tlysau Mynydd Eryri yn gweithio i greu safleoedd adfer ar raddfa tirwedd, gyda phori yn cael ei fonitro a’i reoli’n fwy effeithiol. Bydd y rhain yn cynorthwyo’r gwaith o ailgytrefu’r tir trwy ddefnyddio prosesau naturiol a chyflwyniad targedol o ddeunyddiau oddi ar y safle, wedi’i ledaenu trwy harneisio arbenigedd cyfunol garddwriaethwyr a gwirfoddolwyr lleol.

Bydd o leiaf un safle yn ceisio archwilio ffordd newydd ymlaen ar gyfer yr ucheldiroedd, lle gall ffermio a natur weithio mewn cytgord; enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy bartneriaeth wirioneddol. Bydd hyn yn galluogi tormaen Iwerddon i gael ei ailgyflwyno. Dyma rywogaeth sydd wedi diflannu o’r gwyllt yng Nghymru ers y 1960au. Mae safle arall ar yr Wyddfa yn bwriadu ennyn diddordeb ymwelwyr mewn planhigion arctig-alpaidd a darparu cynefin newydd i chwilen yr Wyddfa. Bydd trydydd safle yn cwmpasu ardal lle gellir dod o hyd i heboglys yr Wyddfa a rhywogaethau targed eraill, gan ganiatáu i’r boblogaeth ehangu a symud yn uwch tuag at gopa’r mynydd. O ystyried lleoliad gwledig y rhan fwyaf o’r safleoedd, ychydig iawn o wybodaeth a fydd yn cael ei darparu, a hynny mewn modd cynnil. Bydd arwyddion ar byst ffensys gyda chod QR ac enw’r prosiect arnynt yn galluogi ymwelwyr i gael mynediad at wybodaeth am Natur am Byth a’r prosiect unigol trwy eu cyfeirio at wybodaeth ar wefan. Bydd yr arwyddion hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth cyfeirnod grid sy’n ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i bobl pan fydd angen achub unigolion ar y mynydd.

Mae adfer Eryri yn un peth, ond peth arall yw ailgysylltu pobl â’r tir. Mae’r rhywogaethau hyn yn oroeswyr hanesyddol, ac mae eu stori yn bwerus. Trwy greu llyfr ar gyfer cynulleidfa iau, mae gennym gyfle i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr yma yn Eryri a thu hwnt gyda hanesion am y planhigion hyn a’r bobl sydd wedi gweithio i sicrhau eu bod yn ffynnu.

Mae defaid a geifr, a gafodd eu cyflwyno gan bobl, yn effeithio’n fawr ar ein rhywogaeth darged. Trwy adael i dyfiant aildyfu yn yr haf neu adladd, a dangos manteision economaidd arferion traddodiadol, byddwn yn edrych yn wahanol ar ffermio defaid yr ucheldir. Geifr yw sêr roc ein mynyddoedd, ac maent yn achosi cryn ddadlau. Bydd Tlysau Mynydd Eryri yn casglu’r holl wybodaeth sy’n bodoli, ac yn rhannu ‘Y Gwir am y Geifr’, gan adrodd eu stori yn ddiduedd.

  1. Achub yr Enfys

Mae’r byd y tu hwnt i’r enfys yn symbol o obaith. Gyda thros 2,500 milimetr o law yn disgyn yn flynyddol yn Eryri, mae’r symbol hwnnw o obaith y daw eto haul ar fryn i’w deimlo fwyfwy yn yr ardal hon. Cafodd ysbytai COVID-19 Cymru eu henwi yn ysbytai enfys oherwydd y gobaith hwn, ac felly rydym yn awyddus i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddefnyddio chwilen yr Wyddfa (y ‘rainbow beetle’) fel symbol pellach o obaith am adferiad gwyrdd ar ôl COVID-19. Y peth cyntaf yr ydym yn bwriadu ei wneud yw gwobrwyo gweithredoedd cadarnhaol tuag at yr adferiad gwyrdd hwn gyda bathodynnau pin chwilen yr Wyddfa.

Rydym yn dyheu am ddod â’r mynyddoedd i Ysbyty Gwynedd drwy greu gardd Tlysau’r Mynydd. Bydd yn bosibl i bobl weld rhywogaethau mynyddig mewn gofod lle mae natur, iechyd a llesiant yn cwrdd. Ac i’r rhai na allant fynd allan, bydd waliau’r ysbyty yn troi’n erddi gyda chelf a ffotograffiaeth.

Mae’r enfys hefyd yn symbol o falchder LHDTC+. Byddwn yn cefnogi gwirfoddolwyr sy’n hoff o fynyddoedd o glybiau LHDTC+ i’n cynorthwyo i chwilio am chwilen yr Wyddfa. Bydd Sŵ Mynydd Cymru yn cynnal rhaglen fridio dof, er mwyn ehangu ac atgyfnerthu ei phoblogaethau gwyllt.

Byddwn yn gwneud ffilm am ein gwaith gan groniclo’r prosiect, y bobl, a lleoliadau Tlysau Mynydd Eryri.

Nod Tlysau Mynydd Eryri yw darparu gwytnwch i’r rhywogaethau hynny sy’n perthyn i’r mynyddoedd. Bydd yn gwneud yr anghyfarwydd yn gyfarwydd i bobl Eryri, a bydd yn adeiladu’r berthynas rhwng y lleoliad, ei rywogaethau sydd o dan y bygythiad mwyaf, a’r bobl sy’n profi ‘cynefin’ yn yr un modd yn Eryri.