
Wrth godi un bore Iau braf i fynd i gynnal arolwg, doedd gen i ddim syniad y byddwn i’n treulio’r diwrnod hanner ffordd i fyny clogwyn yn curo llwyni eithin â ffon. Fodd bynnag, rwy’n prysur ddysgu bod gweithio ym maes cadwraeth yn gofyn gwneud pethau sy’n fwy na chydig bach allan o’r cyffredin i’r anghyfarwydd.
Yn sicr, fe edrychodd rhai pobl arnon ni’n syn wrth ein pasio ar lwybr yr arfordir ond, yn ôl yr arfer, roedd yna reswm da dros ein castiau rhyfeddol. Y rheswm pam roeddwn i a fy nghydweithwyr allan yn ymosod ar y llwyni oedd am ein bod ni’n chwilio am rywogaeth brin o wyfyn o’r enw’r Don Sidan, sydd ond i’w chael mewn tri safle yn y DU: ceunant afon Avon (Bryste), Pen y Gogarth (Conwy) ac yma ar Benrhyn Gŵyr (Abertawe).
Mae’n greadur bach diymhongar, â thonnau lliw hufen a llwydfelyn yn batrymau ar ei adenydd a llewyrch sidanaidd drosto – sy’n rhoi ei enw iddo. Fel gwyfyn sy’n hedfan yn y nos, mae’n llochesu yn ystod y dydd mewn prysgwydd, a gellir ei syfrdanu a’i annog i hedfan i glwyd newydd drwy ei aflonyddu… gan swyddog cadwraeth dan hyfforddiant, dyweder, yn cario ffon fawr. Nid y dull arolygu mwyaf datblygedig dechnolegol efallai, ond effeithiol.

Ar y cyfan, mae’r gwyfynod yn ffafrio clogwyni a bryniau calchfaen sydd â brigiadau creigiog a digonedd o’r Cor-rosyn cyffredin, sef prif ffynhonnell fwyd y lindys. Mae’r rhain yn deor ym mis Awst ac yn gaeafu wedi tyfu’n rhannol cyn ailymddangos yn y gwanwyn a chwilera i’w ffurf lawndwf ym mis Mehefin. Dim ond am gwpl o fisoedd y mae’r oedolion yn hedfan, ac maen nhw’n bridio ac yn dodwy un nythaid o wyau.
Oherwydd hoffter y gwyfyn o lethrau a chlogwyni cynnes, bu’n rhaid i mi fynd ar fy mhedwar mewn mannau, gan ddringo ar silffoedd creigiog i brocio rhai o’r llwyni uwch. Fel y gwyddom, mae eithin yn tueddu i ymladd yn ôl, ei ddrain mawr miniog yn ein clwyfo a’n crafu. Yn y pen draw, bu’n rhaid i fy nghydweithiwr, a oedd wedi gwisgo siorts, roi’r gorau er mwyn mynd i socian ei goesau mewn pwll creigiog yn y gobaith o’u lleddfu. Roedd y boblogaeth o ferdys lleol yn dangos diddordeb mawr!
Ac felly daeth i ben fy ymgais gyntaf i arolygu gwyfynod, gyda nifer helaeth o’r Tonnau Sidan wedi’u cynhyrfu ac antur gadwraeth arall wedi’i chyflawni. Mae bod yn swyddog Natur am Byth! dan hyfforddiant wedi bod yn brofiad gwych hyd yma. Rwy wedi cael y cyfle i ymweld â safleoedd ar hyd a lled Cymru ac wedi dysgu llawer iawn yn barod. Yn edrych ymlaen at yr antur nesaf!