Arolygon cacwn
Yn ystod fy nhri mis cyntaf fel hyfforddai Natur am Byth, rydw i wedi bod yn rhan o arolygon cacwn a chynefinoedd ledled De Cymru.
Fel rhywun a arferai wirfoddoli ar arolygon BeeWalk yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn gyda fy Mharc Cenedlaethol lleol, mae’n teimlo’n swrrealaidd fy mod i nawr yn cael y cyfle i gynnal arolygon BeeWalk fel rhan o’m swydd!
O faes saethu’r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghastellmartin i Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, rydw i wedi cymryd rhan mewn arolygon BeeWalk ac arolygon botanegol mewn amrywiaeth o dirweddau a chynefinoedd lle mae fy rhywogaeth darged, y gardwenynen feinlais, yn bresennol.
Ochr yn ochr â swyddog y prosiect, Anna Hobbs, rydw i wedi creu pedair taith gerdded BeeWalk newydd ledled Sir Benfro yng nghynefinoedd allweddol y gardwenynen feinlais. Rydym yn monitro pob BeeWalk yn fisol, gyda chymorth hanfodol gwirfoddolwyr, a fydd yn parhau ag etifeddiaeth prosiect y gardwenynen feinlais Natur am Byth.
Ymgysylltu â’r gymuned
Yn ogystal â theithiau cerdded BeeWalk ac arolygon o gynefinoedd, rydw i wedi cyd-arwain digwyddiadau ymgysylltu’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn.
Ddechrau mis Mehefin, fe wnaeth Anna a minnau arwain diwrnod plannu ar gyfer ysgolion a ‘saffari gwenyn’ ochr yn ochr â staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Fferm Gupton.
Fe wnaethon ni blannu dail cwmffri ac ytbys bythol culddail, sef rhywogaethau porthi allweddol ar gyfer cardwenyn meinlais, cyn mynd ar ‘saffari gwenyn’ o amgylch y safle i ymarfer adnabod cacwn.
Yn fwy diweddar, yng nghanol mis Gorffennaf, arweiniais ar y cyd, gyda staff a gwirfoddolwyr, stondin yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yng Ngŵyl Bioflits Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Roedd y penwythnos yn llawn sgyrsiau diddorol â’r cyhoedd a ‘saffari gwenyn’ a fynychwyd gan lawer o unigolion o amgylch yr ardd furiog!
Hyfforddiant cynefinoedd ar raddfa eang
Ar ddechrau mis Mehefin, ymwelais â’r Gogledd gyda hyfforddai y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar David a hyfforddai Buglife Lindsey, ar gyfer ein hyfforddiant cynefin graddfa eang cyntaf mewn amgylchedd mynyddig/arctig.
Arweiniwyd yr hyfforddiant gan swyddog planhigion fasgwlaidd Natur am Byth Robbie Blackhall-Miles, a wnaeth ein tywys i sawl tirwedd odidog.
Y cyntaf oedd Cwm Idwal, lle gwnaethom drafod trawsnewidiad y mynyddoedd ar ôl i’r rhewlifoedd doddi a sut mae hyn yn cael ei ddangos gan y cymunedau planhigion a geir yno heddiw.
Yr ail oedd Pen y Gogarth, lle gwelsom rai rhywogaethau prin o blanhigion, gan gynnwys gold y môr (Galatella linosyris), sef un o’m rhywogaethau targed, yn un o’i dair poblogaeth sy’n weddill yng Nghymru!
Roedd ein hail hyfforddiant cynefinoedd ar raddfa eang ar gyfer hyfforddeion yn ymwneud â choetiroedd hynafol. Roedd yr hyfforddiant hwn wedi’i leoli ym Mhowys ac wedi’i arwain gan swyddogion prosiect Gororau Cymru Josie Bridges ac Ellie Baggett.
Dros y ddau ddiwrnod, cawsom gipolwg ar y gwaith y mae prosiect Gororau Cymru yn rhan ohono.
Fe wnaethom ni helpu i gwblhau rhywfaint o waith monitro cennau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gilfach ac fe wnaethom ni ymweld â safle lletya’r ysgwydd derw.
Fe wnaethom ni ymweld hefyd â gwarchodfa Carngafallt yng Nghwm Elan i drafod rheoli coed hynafol a hynod, yn ogystal ag ymarfer rhywfaint o hyfforddiant arolygu cennau sy’n tyfu ar frigau.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Rwyf wedi fy lleoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sy’n golygu, hyd yn hyn fel rhan o’m rôl hyfforddai, fy mod i wedi cael fy nghynnwys mewn llawer o gyfleoedd anhygoel, yn amrywio o ymweliad ag Amgueddfa Cymru i weld y casgliadau herbariwm a molysgiaid, i drawsblannu mwsoglau, casglu data am bryfed a phlanhigion, gwaith labordy, a chasglu hadau.
Yn ystod y misoedd nesaf, byddaf yn cynnal arbrofion croesbeillio ac arolygon peillwyr o old y môr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, i’n helpu i ddeall y rhywogaeth yn well a chefnogi ei chadwraeth yng Nghymru.
Sefydliadau a phrosiectau partner Natur am Byth
Drwy gydol fy misoedd cyntaf, rydw i wedi mynychu amryw o gyfleoedd hyfforddi a gweithdai gyda sefydliadau partner Natur am Byth.
Ym mis Mehefin, mynychais weithdy ystlumod du (Barbastella barbastellus) Natur am Byth a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent ac ymunais â swyddog prosiect Natur am Byth Cathy Jewson i osod synwyryddion ystlumod i wirio am weithgarwch ystlumod du.
Ar ddechrau mis Gorffennaf, cefais gyfle hefyd i fynd i ddiwrnod hyfforddi yn ymwneud â’r chwilen olew gwddf byr (Meloe brevicollis) a gynhaliwyd gan Natur am Byth, dan arweiniad Swyddog Cadwraeth Buglife Cymru Liam Olds.
Mae wedi bod yn wych cael y cyfle i ddysgu am rywogaethau targed Natur am Byth ychwanegol, gyda’r ddau brofiad yn ychwanegu elfen arall o gyffro at fy nheithiau cerdded yn Sir Benfro!
Tra oedden ni yn ardal prosiect Gororau Cymru ddechrau mis Gorffennaf, ymwelais i a Josie â’r safleoedd lle mae rhywogaethau targed Natur am Byth, sef yr afal-fwsogl unionsyth (Bartramia aprica) a’r nyddfwsogl Tortula canescens yn bresennol.
Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, rydw i wedi bod yn ymwneud â thyfu a thrawsblannu’r ddwy rywogaeth o fwsogl (Ffigur 6), felly roedd hi’n wych gweld y ddau gynefin, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi’u gorchuddio â morgrug y coed drwy gydol ein hymweliad â Chreigiau Stanner!
Wrth i mi barhau â’m rôl hyfforddai Natur am Byth, rydw i’n awyddus i adeiladu ar yr hyn rydw i wedi’i ddysgu hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at y cyfleoedd cyffrous sydd o’n blaenau. Cadwch lygad allan!