Skip to content

Patricia MacKinnon-Day

Patricia MacKinnon-Day Portrait

Mae’r artist Patricia MacKinnon-Day wedi ennill prosiect preswyliad Pryf y Cerrig Isogenus nubecula, sydd wedi’i leoli mewn lleoliadau yn Wrecsam a’r cyffiniau, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gyda Buglife.

Nod y preswyliad hwn yw dod â bywyd tanddwr na welir yn aml iawn ‘i’r wyneb’, gan archwilio ffyrdd y gall pobl uniaethu â stori’r pryf dyfrol bach Isogenus nubecula, a thynnu sylw at sut y gallwn gael effaith gadarnhaol ar y cyd ar adfer afonydd a gwella ansawdd dŵr er mwyn achub y creaduriaid hyn a chreaduriaid eraill.

Gallwch weld mwy o waith gan Patricia yma.

Mae’r ffilm When Sally Met Sally yn naratif chwareus, haenog sy’n gwneud y cysylltiad rhwng pryf y cerrig a menyw ifanc ffuglennol o’r enw Sally, a oedd yn byw yng nghefn gwlad Wrecsam ym 1959, pan ddarganfuwyd pryf y cerrig Isogenus nubeculascarce yellow sally yn Saesneg – yn afon Dyfrdwy. Er bod y rhywogaeth pryf y cerrig hon wedi bod yn hysbys ers dros ganrif mewn afonydd eraill yn y DU, roedd hon yn foment arbennig i’r ardal leol. Mae’r canlyniad yn cynnig cyfle i’r gwyliwr fyfyrio ar harddwch a breuder ein hamgylchoedd naturiol.

Llwyddodd anweledigrwydd a breuder ecolegol pryf y cerrig Isogenus nubecula i sbarduno trafodaethau gyda gwahanol gymunedau am lesiant a theimlo’n ynysig ac yn unig. Mae’r ffilm gelf When Sally Met Sally yn pontio’r llinell rhwng adroddiadau gwyddonol sy’n egluro arwyddocâd a phwysigrwydd y rhywogaeth pryf y cerrig a stori Sally, cymeriad ffuglennol, sy’n cofio, fel menyw 22 oed, ddarganfod pryf y cerrig Isogenus nubecula ym Mangor Is-coed ym 1959. Mae Sally ifanc wrth ei bodd â natur, mae hi’n ddibryder ac yn hapus, ac (yn union fel pryf y cerrig Isogenus nubecula) mae hi wrth ei bodd yn dawnsio.

Mae Sally heddiw yn cymharu breuder ac anweledigrwydd pryf y cerrig Isogenus nubecula â’r heriau y mae hi’n eu hwynebu nawr yn ei henaint ac yn canfod bod cael ei throchi yn natur yn cryfhau ei llesiant corfforol a meddyliol.

Roedd y cyfnewid rhwng ffuglen a realiti yn gyfle i ymyrryd yn greadigol gydag aelodau oedrannus cymuned Canolfan yr Enfys. Roedd y gweithdai’n cynnwys perfformiadau dawns a chyflwyniadau ffilm, ac yna drafodaethau, yn ogystal â phaentio, lluniadu a rhannu atgofion. Roedd y gweithgareddau hyn yn hamddenol a llifodd sgyrsiau am lesiant, anweledigrwydd, ecoleg a newidiadau amgylcheddol ers 1959.