Dyfarnwyd prosiect preswyliad Bryoffytau Bendigedig i’r ddeuawd artistiaid boredomresearch (Vicky Isley a Paul Smith).
Roedd y preswyliad hwn wedi’i leoli gyda Plantlife mewn dau leoliad ym Mhowys – yng ngogledd y sir, yn y Drenewydd a’r cyffiniau, ac yn ne’r sir yn Rhaeadr Gwy a’r cyffiniau.
Nod y prosiect oedd ennyn diddordeb pobl mewn ailystyried y ffordd rydyn ni’n gweld rhywogaethau sydd yn fach ac yn ddi-nod ar yr olwg gyntaf, gan dynnu sylw at bwysigrwydd bryoffytau yn ein hecosystem a’r angen i warchod a chadw safleoedd lle mae’r rhywogaethau prin hyn yn ffynnu.
Archwiliodd boredomresearch gobeithion a ofnau dau grŵp lleol o fyfyrwyr niwroamrywiol yn Coleg Drenewydd.
Gan ddynodi cryfderau a breuder y myfyrwyr i archwilio'r rheiny cyfrannol gyda dau fath o fwsogl prin sy'n cael eu hamddiffyn. Defnyddio'n nhw offer ffilmiau arbenigol, i ganiatáu i'r myfyrwyr ymgolli ei hunain yn byd y blanhigion, gan greu tirweddau bach o'r gorffennol a adawyd.
Dychymygodd pob cyfranogwr ddelweddau microsgopig a ddaeth yn bwynt dechreuuol i greu eu rhywogaeth fwsogl eu hunain efo'r bwriad o creu meddeginiaeth ar gyfer rhai o'r pryderon a oedd yn eu poeni nhw. Arweiniodd hyn at greu ffilm fer o'r enw 'Gentle as Moss on Stone' - myfyrdod barddonol ar galedwch, cof, a doethineb distaw natur.
Yn y ffilm hon, mae bryolegydd wedi ymddeol yn sefyll ar draed bryn sydd wedi gorchuddio â mwsogl, na allai ddringo, yn gwehyddu straeon am fwsoglau dychmygol ar gyfer ei wyres ifanc. Clywn ef yn disgrifio nodweddion unigryw pob mwsogl, gydag animeiddiad sy'n ein cymryd ar daith hudol, wedi'i chyffwrdd gan dristwch yr ymadawiad sy'n dod. Mae deg mwsogl dychmygol yn cael eu harddangos, mae pob un yn dal meddyginiaeth gyfrinachol - gryfderau mewn cod i helpu'r wyres i oresgyn heriau bywyd, hir ar ôl iddo fynd.