Skip to content

Vivian Ross-Smith

Vivian Ross-Smith Portrait

Drwy ymgysylltiad synhwyraidd, cyffyrddol â gofal ac ecoleg, mae Vivian Ross-Smith yn creu perfformiadau, gosodiadau, tecstilau a phaentiadau. Mae ei gwaith cyffyrddadwy, sy’n aml yn wisgadwy, yn archwilio syniadau o gysur, pleser a ffieidd-dod yn y corff. Mae Vivian yn tynnu ar arferion yn theori cwiar ac yn myfyrio ar ei hunaniaeth fel ynysydd, yn ogystal â’i chefndir mewn gwaith gofal cymdeithasol. Mae ei gwaith amlsynhwyraidd wedi’i wreiddio mewn cydweithrediad sy’n seiliedig ar le ac sy’n adeiladu cymunedau. Gan chwarae â gwybodaeth gorfforedig, mae hi’n ystyried ei gwaith yn offrwm i’r gwyliwr, gan archwilio themâu haelioni a chyd-ddibyniaeth.

Wedi’i geni yng Nghaeredin a’i magu yn Fair Isle, Shetland, mae gan Vivian radd BA (Anrh) o Ysgol Gelf Gray (2013) a gradd Meistr gyda Rhagoriaeth o Ysgol Gelf Glasgow (2020). Hi oedd Cymrawd Stiwdio Freelands cyntaf Coleg Celf Abertawe (2023).

Gallwch weld mwy o waith Vivian yma.

Dyma beth oedd gan Vivian i’w ddweud am ei gwaith gyda Natur am Byth:

Drwy gydol fy nghyfnod preswyl, datblygais brosiect safle-benodol a oedd yn ymgysylltu cymunedau LHDTCRhA+ â rhywogaethau cyfrinachol sy’n aml yn cael eu hanwybyddu a heb eu caru sy’n byw rhwng amgylcheddau trefol a gwledig yn ardal Bae Abertawe yn ne Cymru.

Archwiliodd y prosiect groestoriadau celf, ecoleg a gwydnwch cwiar, gyda’m hymchwil yn canolbwyntio ar gorryn rafft y ffen ac un o’i gynefinoedd allweddol, Cors Crymlyn. Drwy weithdai a chynulliadau dan arweiniad perfformiadau, gwahoddais y gymuned cwiar i fyfyrio ar allu’r gors i oroesi er gwaethaf ei hanes treisgar, gan gynnwys cael ei bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd a’i hamgylchynu gan safle tirlenwi, warws Amazon a datblygiadau preswyl. Mae Cors Crymlyn ar gyrion Abertawe, ac er gwaethaf ei maint enfawr, ei hanes anhygoel a’i phwysigrwydd ecolegol, nid yw llawer o breswylwyr lleol yn ymwybodol o’i bodolaeth. Mae Cors Crymlyn â gormod o ddŵr ar hyn o bryd ac mae ymdrechion adfer yn canolbwyntio ar annog dŵr i lifo oddi ar y safle.

Mae corryn rafft y ffen, sydd wedi’i orchuddio â blew hydroffobig, yn gallu arnofio ar ddŵr ac mae’n parhau i fodoli yn amgylchedd dyfrlawn Cors Crymlyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ymdrechion dwys i hybu poblogaeth corryn rafft y ffen wedi arwain at sylw gormodol yn y cyfryngau, gyda phenawdau’n gorbwysleisio maint y corryn, gan ddweud ei fod “mor fawr â llygoden fawr” ac yn ei bortreadu fel bygythiad goresgynnol. Mae fy ymchwil yn llunio cyfatebiaeth rhwng yr iaith ysgarol a niweidiol a ddefnyddir i ddisgrifio rhywogaeth sy’n ceisio bodoli, a’r naratifau sy’n ffobig am bobl cwiar ac sy’n casáu pobl draws, a welwn yn rhy aml yn y cyfryngau a gwleidyddiaeth.

Gan fframio’r gamddealltwriaeth a’r gamdriniaeth o’r rhywogaeth gyfrinachol hon a’i chynefin fel trosiadau ar gyfer gwydnwch a grymuso cwiar, rwy’n archwilio themâu gofal rhyngrywogaethol, perthyn a chymuned mewn cyfnodau o orlawnder.