Un o brosiectau Natur am Byth yw prosiect Bae Abertawe – Yr Arfordir, Tir Comin a Chymunedau, a’i ddiben yw gwarchod rhai o’r rhywogaethau sydd o dan y bygythiad mwyaf yng Nghymru, a hynny ar hyd morlin nodedig Môr yr Iwerydd, sy’n gartref i fywyd gwyllt prin yn ei chlogwyni calchfaen, ei haberoedd a’i thwyni tywod. Ar un adeg, roedd pori traddodiadol yn cynnal y cynefinoedd hyn, ond mae colli cynefinoedd a llai o reoli tir bellach yn bygwth llawer o rywogaethau.
Mae’r prosiect, dan arweiniad Buglife UK, yn targedu 13 o rywogaethau prin, gan gynnwys chwilen y draethlin, y pryf teiliwr chwe smotyn, corryn rafft y ffen, a’r cordegeirian. Mae’r ymdrechion cadwraeth yn canolbwyntio ar adfer 52 hectar o gynefinoedd agored trwy ailgyflwyno arferion pori, rheoli glaswelltir a phrysgwydd, a chael gwared ar blanhigion goresgynnol o dwyni tywod sy’n hanfodol ar gyfer rhywogaethau fel madfall y tywod.
Mewn partneriaeth â chymunedau lleol, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid eraill, mae’r prosiect yn cyfuno gwaith adfer ecolegol ag ymgysylltiad cymunedol ar draws Penrhyn Gŵyr a chymunedau trefol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i sicrhau lloches hirdymor i’r rhywogaethau hyn.
NODER: Mae Bae Abertawe – Yr Arfordir, Tir Comin a Chymunedau yn cydweithio’n agos â phrosiectau eraill Natur am Byth, megis Sêr y Nos Bae Abertawe, Gweithredu dros Wiberod a phrosiect Achub y Gardwenynen Feinlais yng Nghymru.