Skip to content
close up of a curlew

Llŷn ac Ynys Môn

Trwy’r rhaglen Natur am Byth mae prosiect Llŷn ac Ynys Môn yn canolbwyntio ar warchod rhai o’r rhywogaethau sydd o dan y bygythiad mwyaf yng Nghymru ar draws tirweddau unigryw Pen Llŷn ac Ynys Môn. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys 200 milltir o glogwyni caled a meddal, morfeydd heli, twyni tywod, glaswelltiroedd a rhostiroedd, a’r cyfan yn cael eu bwydo gan rwydwaith o wlyptiroedd, gan gynnwys ffeniau sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.

Ar un adeg, roedd arferion traddodiadol o reoli’r tir yn cynnal y cynefinoedd hyn, ond mae colli cynefinoedd a llai o reoli tir bellach yn bygwth llawer o rywogaethau.

O dan arweiniad RSPB Cymru, mae’r prosiect yn gweithio i wella cynefinoedd a chodi ymwybyddiaeth o 17 o rywogaethau targed, gan gynnwys y frân goesgoch, y pryf teiliwr chwe smotyn, a’r saerwenynen fawr. Nod yr ymdrechion cadwraeth yw adfer a rheoli 100 hectar o gynefin trwy ailgyflwyno anifeiliaid pori, rheoli rhostir a glaswelltir, a rheoli rhywogaethau goresgynnol.

Mae twristiaeth a ffermio da byw yn allweddol i ogledd-orllewin Cymru, ac yn cynnal llawer o deuluoedd ar draws y rhanbarth. Mae pori yn hanfodol i lawer o rywogaethau, a rhaid ei reoli yn ofalus.

Gan weithio gyda thirfeddianwyr a thenantiaid, bydd y prosiect yn creu ac yn adfer microgynefinoedd ac yn rhoi hwb i boblogaethau bach o’r gorswig, y cor-rosyn rhuddfannog, malwoden droellennog Geyer, a thafolen y traeth trwy drawsleoli.