Skip to content

National Work Packages

Asesiadau Adfer Rhywogaethau

staff in the field

Mae 67 o rywogaethau targed gan Natur am Byth y mae camau gweithredu wedi’u cynllunio ar eu cyfer i hwyluso eu hadferiad. Mae llawer mewn perygl, gan ymddangos mewn llond llaw o safleoedd yn unig yng Nghymru (neu’r Deyrnas Unedig) ac ystyrir bod hyd at 44 mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Mae angen gwaith arolygu ar rai rhywogaethau i ganfod eu gwasgariad, eu dosbarthiad a/neu eu toreithrwydd, tra bod atebion adfer ymarferol eisoes wedi’u treialu ar gyfer eraill ac yn cael eu cyflwyno’n ehangach trwy Natur am Byth.

Mae dull cyson o fesur cynnydd wedi’i gynllunio gan ein rhaglen i adrodd pa mor bell ar y daith i adferiad y mae pob rhywogaeth wedi dod erbyn diwedd y rhaglen. Mae ein dull asesu adferiad rhywogaethau yn seiliedig ar ddull cromlin adferiad a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n galluogi ein staff i ddangos effaith ymyriadau ar gyfer pob rhywogaeth darged.

Ymgysylltu â’r Celfyddydau

Hedydd Ioan enaging with the community

Mae Natur am Byth yn cynnal Rhaglen Ymgysylltu drwy’r Celfyddydau sy’n hwyluso deg preswyliad gan artistiaid ym mhob un o’n lleoliadau prosiect sy’n seiliedig ar leoedd ledled Cymru. Cynhelir y rhaglen gan arbenigedd partneriaid cyflawni prosiectau a Chyngor Celfyddydau Cymru (CCC), ac fe’i cynhyrchir ar y cyd â swyddogion cyflawni prosiectau a rhanddeiliaid cymunedol.

Mae gan weithwyr proffesiynol creadigol y grym a’r mewnwelediad i ailddychmygu’r argyfwng natur rydym yn byw drwyddo, a dod o hyd i ystyr a straeon sy’n gysylltiedig â’n rhywogaethau targed. Gall hyn ysbrydoli cymunedau a’r cyhoedd i gysylltu â natur a gofalu am y rhywogaethau prin ar garreg y drws. Drwy’r bartneriaeth ag artistiaid mae ein rhaglen ymgysylltu â’r celfyddydau yn cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Gallu cynyddol i gyrraedd y cyhoedd yn gyffredinol a chynulleidfaoedd newydd yng Nghymru
  • Manteision llesiant sy’n newid bywydau wrth ymgysylltu â natur
  • Ystod ehangach o bobl yn elwa o natur anhygoel Cymru ac yn cyfrannu at ofalu amdani
  • Staff y bartneriaeth yn hyderus y gallant gyflwyno ffyrdd newydd o weithio
  • Gallu sectoraidd gwell i dargedu cysylltedd natur er llesiant.

Pori Er Lles Cadwraeth

Grazing Goats - Photo by Plantlife

Mae bron i 80% o ardaloedd gwarchodedig Cymru yn cael eu ffermio’n weithredol. Mae pori er lles cadwraeth yn offeryn hanfodol i sicrhau rheolaeth ffafriol ar gyfer cynefinoedd sy’n llochesu llawer o rywogaethau prin a rhai dan fygythiad ledled y DU. Mae chwech o’r 11 o brosiectau yn Natur am Byth yn dibynnu ar bori i sicrhau adferiad hirdymor y rhywogaethau targed, ond gall yr heriau y mae porwyr yn eu hwynebu fod yn gymhleth, e.e. mynediad at farchnadoedd, aflonyddwch stoc, a newidiadau cenedliadol mewn arferion amaethyddol.

Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr pori a ffermwyr ar amrywiaeth o safleoedd yn y rhaglen, i wella cyfleusterau trin stoc, darparu cyngor i ganolbwyntio pori ar ardaloedd sydd angen rheolaeth benodol, a chynnal digwyddiadau hyfforddi i ddangos rheolaeth pori cadwraethol i fwy o dirfeddianwyr a ffermwyr.

Mesur Effaith

staff assessing environment

Mae ein fframwaith mesur effaith yn sail i’r rhaglen Natur am Byth gyfan, ac yn nodi’r dulliau a ddefnyddiwn i fesur effaith ein gweithgareddau a gwerthuso cynnydd tuag at ein Gweledigaeth 2040 a phum nod y rhaglen.

Datblygwyd y fframwaith mesur effaith i osod yr agenda ar gyfer monitro a gwerthuso. Mae’n ymgorffori canlyniadau i bobl a chanlyniadau i rywogaethau. Mae’r dulliau a ddefnyddiwn yn ein galluogi i gofnodi newid gwirioneddol a fydd yn parhau i ddylanwadu ar y sector cadwraeth ymhell ar ôl i’r rhaglen ddod i ben. Mae’n disgrifio’r mesurau meintiol ac ansoddol a ddefnyddiwn i adrodd ar gynnydd yn erbyn canlyniadau rhaglen Natur am Byth, er mwyn sicrhau adrodd yn glir yn erbyn canlyniadau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chyllidwyr arwyddocaol eraill fel Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cynhelir ein gwerthusiad gan werthuswr annibynnol, sy’n ofyniad allweddol ar gyfer unrhyw raglen fawr a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Cynllun Cymorth Cymunedol

Girl working on log

Mae hon yn elfen gyffrous o’n rhaglen sy’n grymuso pob partner i gaffael gwasanaethau, asedau neu brofiadau ar gyfer cymunedau lleol. Ni all sefydliadau cadwraeth natur a llywodraethau fynd i’r afael â’r argyfwng natur ar eu pennau eu hunain. Mae angen dull mwy o faint, yn fwy cydgysylltiedig sy’n cynnwys pobl y tu allan i’n sefydliadau, gan ddatblygu ymddygiadau cydweithredol ar draws gwahanol sectorau ac ar lawr gwlad.

Mae democrateiddio adferiad natur yn hanfodol ac y mae wedi’i blethu i mewn i weledigaeth hirdymor ein rhaglen ar gyfer dull sy’n canolbwyntio ar bobl i adfer rhywogaethau. Drwy addysgu a grymuso pobl i weithredu dros natur, a thrwy helpu cymunedau i lunio’r daith adfer natur, rydym yn fwy tebygol o ddod o hyd i atebion pragmatig a’u cynnal.

Hyfforddiant a Lleoliadau

staff training on site

Mae’r cynllun hyfforddiant a lleoliadau yn becyn gwaith cenedlaethol cydlynol arwyddocaol, sy’n cefnogi datblygu sgiliau mewn tri hyfforddai newydd ac yn grymuso staff a gwirfoddolwyr prosiectau i ddysgu dulliau newydd. Mae’n cefnogi’r gweledigaethau rhaglen hirdymor canlynol:

Mae addysg drwy’r cynllun hyfforddiant a lleoliadau yn un o’r mecanweithiau y bydd Natur am Byth yn cyflawni ei huchelgais o sector cadwraeth mwy cynhwysol, ac felly mwy gwydn, drwyddynt. Drwy uwchsgilio ei chynulleidfa darged, mae Natur am Byth yn rhoi’r cyfle i bobl ddod yn asiantau newid, a’u grymuso nhw i weithredu ar bob lefel.