Skip to content
native oysters

Project Môr

Pen Llŷn a’r Sarnau

Un o brosiectau Natur am Byth yw Natur am Byth Môr, sy’n cael ei arwain gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Dyma’r unig brosiect morol yn rhaglen Natur am Byth ac mae’n canolbwyntio ar warchod rhywogaethau morol pwysig sydd mewn perygl, gan gynnwys morwellt, y fôr-wyntyll binc, a’r wystrysen frodorol. Mae’r prosiect hefyd yn rhan o ymgyrch genedlaethol i wella ansawdd dŵr ar draws arfordir Cymru.

Mae Natur am Byth Môr yn gweithio mewn dau brif leoliad, a chaiff ei gynorthwyo gan y canlynol:

  • Cydlynydd Rhanbarthol Llŷn ac Ynys Môn (sydd hefyd yn Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau) – arweinydd ar gyfer y pecynnau gwaith morwellt ac ansawdd dŵr.
  • Cydlynydd Rhanbarthol Sir Benfro (sydd hefyd yn Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol) – arweinydd ar gyfer y pecynnau gwaith môr-wyntyll binc a’r wystrysen frodorol.

Bydd y cynllun cyfathrebu hwn yn canolbwyntio ar Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau a’i gwaith yn gwarchod rhai o’r rhywogaethau sydd o dan dan y bygythiad mwyaf yng Nghymru o amgylch Llŷn ac Ynys Môn.

Mae morwellt yn lecynnau hanfodol i fioamrywiaeth, gan ddarparu meithrinfeydd a chynefin i bysgod ifanc, gan gynnal pysgodfeydd lleol. Mae hefyd yn cynnal rhywogaethau sy’n bwysig o ran bioamrywiaeth megis y bibell fôr. Mae’n storio carbon glas, yn cynhyrchu ocsigen, yn helpu i amddiffyn yr arfordir ac yn gwella ansawdd dŵr. Mae morwellt yn hanfodol ar gyfer lliniaru newid yn yr hinsawdd, a dyna pam y bydd prosiect Natur am Byth Môr yn defnyddio systemau angori uwch i helpu i adfer dolydd morwellt, gan fod systemau angori uwch yn llai niweidiol ac yn fwy cyfeillgar i forwellt nag angorfeydd confensiynol.

Mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, cymunedau lleol, rheolwyr morol a rhanddeiliaid eraill, mae’r prosiect yn gweithio ar y cyd i gynllunio a chyflwyno rhaglen wyddoniaeth dinasyddion i fonitro ansawdd dŵr, gyda’r bwriad o wella’r amodau ar gyfer bywyd morol.

Sir Benfro

Un o brosiectau Natur am Byth yw Natur am Byth Môr, sy’n cael ei arwain gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Dyma’r unig brosiect morol yn rhaglen Natur am Byth ac mae’n canolbwyntio ar warchod rhywogaethau morol pwysig sydd mewn perygl, gan gynnwys morwellt, y fôr-wyntyll binc, a’r wystrysen frodorol. Mae’r prosiect hefyd yn rhan o ymgyrch genedlaethol i wella ansawdd dŵr ar draws arfordir Cymru.

Mae Natur am Byth Môr yn gweithio mewn dau brif leoliad, a chaiff ei gynorthwyo gan y canlynol:

  • Cydlynydd Rhanbarthol Llŷn ac Ynys Môn (sydd hefyd yn Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau) – arweinydd ar gyfer y pecynnau gwaith morwellt ac ansawdd dŵr.
  • Cydlynydd Rhanbarthol Sir Benfro (sydd hefyd yn Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol) – arweinydd ar gyfer y pecynnau gwaith môr-wyntyll binc a’r wystrysen frodorol.

Bydd y cynllun cyfathrebu hwn yn canolbwyntio ar ardal cadwraeth arbennig Sir Benfro a’u gwaith i warchod yr wystrysen frodorol a’r fôr-wyntyll binc.

Mae’r wystrysen frodorol yn rhywogaeth bwysig. Gan ei bod yn bwydo drwy hidlo, mae’n gwella ansawdd y dŵr, yn cael gwared ar nitrogen gormodol ac yn sefydlogi gwaddodion, a gwyddys ei bod yn cyfrannu at gloi carbon glas. Gall gwelyau wystrys iach ddarparu cynefin a lloches i rywogaethau eraill gan gynnwys pysgod ifanc, crancod, malwod môr a sbyngau. Yn anffodus, mae poblogaeth yr wystrys brodorol yn dirywio ar draws Ewrop, sydd hefyd yn effeithio ar rywogaethau ac ecosystemau sy’n eu defnyddio i oroesi.

Gan adeiladu ar Gynllun Adfer Wystrys Brodorol Cymru, bydd Natur am Byth Môr yn profi ac yn ehangu’r gwaith o adfer gwelyau wystrys yn nyfrffordd Aberdaugleddau. Bydd hefyd yn creu rhaglen wyddoniaeth dinasyddion yn ymwneud ag wystrys, a fydd yn galluogi gwelyau wystrys i gael eu monitro ac yn hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy.