Skip to content
scarce yellow sally close up

Pryf y cerrig

Un o brosiectau Natur am Byth, mewn partneriaeth â Buglife, yw Prosiect Pryf y Cerrig, a’r nod yw deall statws presennol yr Isogenus nubecula (pryf y cerrig) yn afon Dyfrdwy yn well ac ennyn diddordeb aelodau’r cyhoedd ynghylch ei bwysigrwydd.

Mae dwy elfen i’r prosiect. Yn gyntaf, bydd Sŵ Caer a John Davy Bowker yn ein cynorthwyo i gynnal treialon bridio cadwraethol ac astudio’r DNA yng ngholofn ddŵr afon Dyfrdwy i’n helpu i ddod o hyd i boblogaethau newydd.

Yr ail elfen yw gwahodd pobl i ymgysylltu â’r prosiect. Cymunedau lleol yw’r prif ffocws, ond y nod yw ymgysylltu â chymunedau cenedlaethol hefyd, gan gynnwys y rhai nad ydynt efallai’n ymwneud â byd natur yn eu bywydau bob dydd. Mae’r prosiect yn croesawu gwirfoddolwyr ac yn cynnig hyfforddiant i’n helpu i gofnodi a deall pryf y cerrig yn well. Ar yr un pryd, byddwn yn cynnal digwyddiadau ar lan yr afon ac yn ymweld ag ysgolion a cholegau.

Nod y prosiect yn y pen draw yw ennyn diddordeb pobl ym myd pryfetach ac ymgysylltu ag ef.