Mae helaethrwydd y fritheg frown, sef y glöyn byw sydd o dan y bygythiad mwyaf yng Nghymru a’r DU, wedi gostwng 65% (rhwng 1978 a 2019), a’i dosbarthiad wedi gostwng 87% (rhwng 1985 a 2019). Dim ond un nythfa sydd ar ôl yng Nghymru, a hynny yn nhwyni’r Hengastell ym Mro Morgannwg. Mae’r rhywogaeth mewn perygl mawr o ddiflannu, felly bydd prosiect y fritheg frown (partneriaeth rhwng Natur am Byth a’r Gadwraeth Gloÿnnod Byw) yn gweithio i warchod y rhywogaeth ac ehangu’r cynefinoedd addas yn yr ardal hon.
Mae angen amgylchiadau penodol ar y glöyn byw, gan gynnwys llethrau wedi’u gorchuddio â rhedyn, coetir olyniaethol (e.e. prysgoed), cynefin ‘ymylol’ a’r fioled cyffredin. Mae ardal y prosiect yn rhychwantu tirweddau calchfaen sy’n cynnwys dwy ardal o dwyndir (Rhos Ogwr ac ar draws twyni’r Hengastell) yng Nghwm Alun.
Mae hefyd yn ceisio gwella lles meddyliol trwy gysylltu pobl â byd natur trwy gynnal gweithgareddau corfforol megis teithiau natur a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â rheoli cynefinoedd a chofnodi’r glöyn byw. Bydd prosiectau celf ehangach hefyd yn rhan o’r cynllun.
NODER: Mae prosiect y fritheg frown yn aml yn gweithio gyda phartneriaid eraill, e.e. Gweithredu dros Wiberod (Natur am Byth / Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid). Isod ceir map o rai o’r rhywogaethau / prosiectau yn Ne Cymru.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Gwarchod Glöynnod Byw