Skip to content
close up of apple moss

Y Gororau

Mae’r Gororau, sy’n cynnwys siroedd hanesyddol Maldwyn, Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed (Powys erbyn hyn), yn lleoliad i rai o’r coed a’r creigiau hynaf yng Nghymru – gan greu amodau sy’n ymdebygu i rai Môr y Canoldir yng Nghymru. Mae hyn wedi galluogi rhai rhywogaethau eithriadol o brin i ffynnu ar y llethrau hyn.

Mae’r prosiect, sy’n bartneriaeth rhwng Natur am Byth a Plantlife, yn rhoi sylw i bymtheg o’r rhywogaethau targed prin hyn, sydd oll o dan fygythiad neu bron â diflannu yng Nghymru, gan gynnwys cennau, infertebratau saprosylig, ffyngau, a bryoffytau.

Ymysg rhai o’r rhywogaethau nodedig mae’r scutula circumspecta (cen), y chwilen ysgarlad prin, ysgwydd y dderwen a’r mwsogl troellog. Mae’r rhywogaethau hyn yn wynebu bygythiad o ganlyniad i golli cynefinoedd, clefyd coed ynn, prinder coed hynafol a llygredd amonia.

Nod prosiect y Gororau yw tynnu sylw at y “rhyfeddodau bach” hyn, gwella llesiant cymunedol trwy gynnal digwyddiadau natur, meithrin cysylltiad â byd natur, darparu cyfleoedd gwirfoddoli ac ymgymryd â gwaith cadwraeth. Mae’n ceisio atebion cydweithredol i warchod y rhywogaethau hyn ac ysbrydoli gwarcheidwaid newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.