
Fel hyfforddai Natur am Byth! yn gweithio ar brosiect Achub y Gardwenynen Feinlais yng Nghymru, treuliais y rhan fwyaf o fy haf fel hyfforddai yn cerdded o amgylch safleoedd blodau gwyllt hardd yn Sir Benfro yn edrych ar gacwn.
Ochr yn ochr â'm rheolwr llinell Anna Hobbs, fe wnaethon ni greu pedwar trawslun monitro BeeWalk newydd yn Sir Benfro yn 2025, lle bu cofnodion blaenorol o Gardwenyn Meinlais (Bombus sylvarum). Yn sgil hyn, roeddwn yn ymweld â phob safle unwaith y mis, yn cerdded o amgylch arfordir Sir Benfro yn cyfrif cacwn ac yn aros am fy nghyfarfyddiad cyntaf â Chardwenynen Feinlais.
Ym mis Awst, fe wnaeth Anna a minnau fonitro'r trawslun ar Faes Tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghastellmartin am y tro cyntaf. Fe wnaethon ni greu'r trawslun mewn ardal o'r Maes Tanio a argymhellwyd i ni gan un o staff rheoli tir profiadol y Maes Tanio, a ymunodd â ni am ran o'r daith gerdded, gan rannu ein brwdfrydedd wrth chwilio am y Gardwenynen Feinlais.
Yn ôl y sôn, roedd y Gardwenynen Feinlais wedi cael ei gweld sawl gwaith ar y safle hwn dros y blynyddoedd, ond gan mai dyma un o'r rhywogaethau cacwn prinnaf yng Nghymru ac yn y DU, doedd Anna a minnau ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Allai dim byd fod wedi ein paratoi ar gyfer yr hyn a welon ni.

Doedden ni ddim wedi dod o hyd i’n Cardwenynen Feinlais gyntaf yn Sir Benfro eto, felly doedd ein llygaid ni ddim yn graff iawn eto. Yn syth ar ôl cerdded trwy lain drwchus o Orudd (Odontites Vernus), y Bengaled (Centaurea nigra) a’r Wydro (Melilotus), roedd sŵn y pryfed yn drydanol. Ac wele o’n blaenau - ein cyfarfyddiad cyntaf â Chardwenynen Feinlais weithgar, â’i basgedi paill oren llachar ar ei choesau.
O'r cyfarfyddiad cyntaf hwn roedd yn ymddangos bod effaith domino ar waith, gyda phob ychydig gamau'n arwain at weld Cardwenynen Feinlais arall. Parhaodd hyn drwy’r trawslun 1km i gyd ac am unwaith y rhywogaethau o gacwn cyffredin oedd y grwpiau nad oedd i’w gweld gymaint, gyda llu o gofnodion o’r Gardwenynen Feinlais a'r Gardwenynen Lwydfrown (Bombus humilis) yn llenwi ein ffurflen gofnodi.

Roedden ni wedi clywed llawer o straeon a oedd yn dweud bod Castellmartin yn hafan i’r Gardwenynen Feinlais ac mae gennym ni stori ein hunain i’w hadrodd nawr! Buan y diflannodd ein hansicrwydd ar ddechrau’r daith ynghylch adnabod Cardwenynen Feinlais yn hyderus ac erbyn y diwedd rwy'n credu ein bod wedi dechrau ystyried ein hunain yn arbenigwyr! Roedden ni hyd yn oed wedi mireinio ein gallu i’w hadnabod gyda’n clyw, o’u suo ‘main’ â thraw uchel.
Pan gyrhaeddon ni’n ôl at y ceir ar ddiwedd y dydd, roedden ni’n dal yn methu credu’r hyn roedden ni wedi’i brofi ac yn cwestiynu a fyddai pobl yn ein credu ni! Roedd yn teimlo fel carreg filltir yn fy hyfforddeiaeth lle daeth yr ymdrechion i greu'r BeeWalks a monitro'r Gardwenynen Feinlais at ei gilydd o'r diwedd a rhoi cipolwg ar sut beth fyddai bod â phoblogaeth sefydlog o'r Gardwenynen Feinlais yng Nghymru.