Skip to content

Gold y Môr: Trysor Prin
gan Amy Burchmore

NaB trainee Amy Burchmore

Mae Gold y Môr yn blanhigyn brodorol i Gymru sydd yn y teulu Asteraceae, ac yn un o'r rhywogaethau targed ar brosiect Achub y Gardwenynen Feinlais Natur am Byth! yng Nghymru. Gan weithio fel hyfforddai ar y prosiect hwn, rydw i wedi bod yn ffodus i ymweld â phob un o'r poblogaethau sy'n weddill o Gold y Môr yng Nghymru, gan gynnal arolygon a chasglu hadau i helpu i gyfrannu at eu gwarchod.

Mae Gold y Môr i'w gael ar Ben y Gogarth yng Ngogledd Cymru, ac ar Benrhyn Gŵyr a Chastellmartin yn Ne Cymru. Mae'n tyfu mewn clystyrau ynysig, pob un dan fygythiad gan gystadleuaeth â phlanhigion cryf eraill. Y dyb yw na all un planhigyn Gold y Môr ffrwythloni ei hun, ac felly, mae angen planhigyn Gold y Môr â geneteg wahanol i greu had hyfyw. Colli’r gystadleuaeth am adnoddau a diffyg amrywiaeth genetig yw'r ddwy her fwyaf y mae'r poblogaethau sy'n weddill o Gold y Môr yng Nghymru yn eu hwynebu.

Ymwelais â’r boblogaeth ar Ben y Gogarth ym mis Mehefin 2025 ar ddiwrnod hyfforddi cynefin Natur am Byth!. Roedd y planhigion ar silffoedd a llethrau serth a oedd bron yn gwbl anhygyrch, lle maent yn wynebu llai o fygythiad oherwydd gorbori gan y geifr Cashmiri sy'n crwydro’r Gogarth. Roedden nhw hefyd yn eithaf anodd eu gweld heb eu blodau melyn llachar trawiadol!

NaB Officer

Ym mis Medi a mis Hydref 2025, cydlynais ymweliad â Phenrhyn Gŵyr a Chastellmartin, gyda rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â Gold y Môr ledled Cymru a Lloegr. Fe wnaethon ni fonitro pob un o'r is-boblogaethau gan ddefnyddio data arolygon blaenorol, gan gyfrif pigau blodeuol a nodi cymunedau o blanhigion cysylltiedig. Yng Nghastellmartin, fe lwyddon ni hyd yn oed i gasglu rhywfaint o hadau gan fod llawer o'r planhigion wedi gorffen blodeuo. Mae'r had hwn wedi cael ei brosesu ers hynny a bydd yn cael ei storio ym Manc Hadau Cenedlaethol Cymru.

Mae staff yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi cwblhau teithiau casglu hadau ym mhob un o safleoedd Cymru o'r blaen, gyda chasgliad Pen y Gogarth yn cynnwys dros 8000 o hadau o ansawdd da mewn cyferbyniad llwyr â'r safleoedd yn Ne Cymru, gyda thaith i Benrhyn Gŵyr yn arwain at 25 o hadau o ansawdd da a theithiau lluosog i Gastellmartin dros dair blynedd yn arwain at gyfanswm o 5 hedyn o ansawdd da.

Goldilocks Aster

Ym mis Hydref 2025 fodd bynnag, ar ôl casglu’r hadau yng Nghastellmartin, cafwyd 130 o hadau o ansawdd da ar ôl eu prosesu, nifer fach o'i gymharu â’r Gogarth, ond yn dal i fod yn llwyddiant mawr i'r safle gan fod awgrym y gallai'r planhigion yno fod yn gloniau genetig.

Un o fy nghyfrifoldebau i gyda Gold y Môr yn fy rôl fel hyfforddai oedd cwblhau arbrawf croesbeillio rhwng planhigion o Ben y Gogarth, Gŵyr a Chastellmartin. Gyda'r wybodaeth oedd gennym am nifer yr hadau o ansawdd a gynhyrchwyd ym mhob un o'r safleoedd, y nod oedd deall a fyddai gan y planhigion o Benrhyn Gŵyr a Chastellmartin set hadau fwy pe baent yn cael eu croesi â phlanhigion o'r Gogarth. Roedden ni hefyd yn gobeithio deall a darparu tystiolaeth o b’un a fyddai defnyddio planhigion o safleoedd pell a geneteg a oedd yn wahanol yn ôl pob tebyg, yn cynyddu’r set hadau.

Cross pollination experiment

Ni wnaeth yr arbrawf croesbeillio gynyddu’r set hadau ac allan o wyth pen blodyn gyda chyfartaledd o 25 blodyn ym mhob un, canfuwyd 5 hedyn o ansawdd da. Mae'r had o ansawdd da wedi cael profion egino i ddeall hyfywedd yr had ac o ganlyniad mae un o’r hadau o blanhigyn o Benrhyn Gŵyr, wedi'i groesi â phaill o Gastellmartin, wedi egino, gan gadarnhau hyfywedd yr hadau.

Er nad dyma'r canlyniadau yr oeddem yn eu disgwyl, mae'r arbrawf wedi darparu rhywfaint o wybodaeth sylfaenol allweddol am Gold y Môr yn ogystal ag arsylwadau o strwythur blodau, hadau ac eginblanhigion, y gellir eu defnyddio gan brosiectau ac arbrofion yn y dyfodol yng Nghymru a ledled y DU.

Goldilocks Aster

Mae fy mhrofiad o weithio gyda Gold y Môr a'r tîm yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i gwblhau'r arbrawf wedi bod yn gyfle dysgu amhrisiadwy. Rwy'n gobeithio y bydd y canlyniadau'n llywio arbrofion a phrosiectau cadwraeth y gellir eu hailadrodd yn y dyfodol, gan helpu i symud yn agosach at y nod o warchod Gold y Môr yng Nghymru ac ar draws y DU.