Skip to content

Fframwaith Mesur Effaith (FfME)

Mae Fframwaith Mesur Effaith (FfME) Natur am Byth yn ein helpu i ddeall, mesur a gwella’r gwahaniaeth y mae ein rhaglen yn ei wneud i natur, pobl a sefydliadau ar hyd a lled Cymru. Wedi’i ddylunio gyda chefnogaeth ymgynghorwyr arbenigol ac wedi’i ymgorffori yn y rhaglen o’r cychwyn cyntaf, mae’r FfME yn cynnig dull cyson ar gyfer monitro a gwerthuso gan hefyd gydnabod anghenion unigryw pob prosiect.

Drwy gasglu tystiolaeth drwy gydol y rhaglen, mae’r FfME yn ein helpu i olrhain yr hyn sy’n gweithio’n dda, dysgu o heriau, ac addasu ein gweithgareddau i sicrhau’r effaith fwyaf posibl. Mae’n cefnogi ymarfer cynhwysol, yn llywio gwaith cadwraeth ar gyfer y dyfodol, ac yn ein helpu i ddangos atebolrwydd i gyllidwyr a phartneriaid.

Yn bwysicaf oll, mae’r FfME yn sicrhau bod dysgu ac adfyfyrio yn ganolog i Natur am Byth, gan ein helpu i sefydlu gwaddol parhaol ar gyfer cadwraeth natur yng Nghymru a’r tu hwnt.

Adolygiad Rhaglen Canol Tymor

Fel rhan o’n Fframwaith Mesur Effaith (FfME), fe gynhaliom adolygiad canol tymor cynhwysfawr o’r rhaglen i asesu cynnydd, i ddysgu ac i nodi cyfleoedd i wella. Mae’r ddau adroddiad isod, Adroddiad Blynyddol Natur am Byth 2024-2025 (a luniwyd gan JEM Associates) a’r adroddiad mewnol Buddion Mesuradwy Natur am Byth: Adroddiad Cynnydd Canol Tymor, yn cyflwyno canfyddiadau’r adolygiad hwn, gan amlygu’r hyn a gyflawnwyd hyd yma, y prif heriau, a’r gwersi a fydd yn helpu i lunio gweddill y rhaglen.