Ers 2024, cafodd 12 artist ei penodi’n llwyddiannus i ymgymryd â chyfres o breswyliadau artistiaid cyswllt ledled Cymru, fel rhan o Raglen Ymgysylltu drwy’r Celfyddydau Natur am Byth, roedd hyn yn bosibl gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae'r preswyliadau wedi gweithio gyda chymunedau ym mhob un o'n prosiectau, i ddatblygu ystodau amrywiol o waith celf sy'n mynd i'r afael â mater difodiant rhywogaethau a lles pobl sy'n byw yn agos at ein rhywogaethau prinnaf yng Nghymru.
Mae pob gwaith celf yn adrodd stori ddiddorol am ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed yng Nghymru, a phwysigrwydd cysylltiad natur i les dynol.
Mae pob artist wedi creu ffilm fer i arddangos eu gwaith, ac rydym yn cynnal digwyddiad ar-lein ar 28 Mai i rannu'r gweithiau terfynol. Bydd hyn yn debyg i ddangosiad ffilm fer, gyda chyflwyniad gan y rhai sy'n rhan o'r gwaith.
Gallwch wylio ffilm isod am yr artistiaid yn gweithio ar ei celf ac o fewn cymunedau neu allwch edrych ar weithiau unigol pob artist.
Fel Arweinydd Creadigol Rhaglen Ymgysylltu â'r Celfyddydau Natur am Byth, mae Addo yn dod ag arbenigedd curadu a dealltwriaeth ddofn o bŵer celf i drawsnewid y ffordd yr ydym yn gweld ac yn cysylltu â'r byd naturiol. Gan weithio mewn partneriaeth agos â Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid prosiect Natur am Byth, mae Addo wedi datblygu strategaeth gelfyddydau uchelgeisiol a chynhwysol sy'n gosod rhywogaethau prin Cymru sy’n aml yn cael eu hanwybyddu yng nghanol adrodd straeon dychmygus, sy'n seiliedig ar le.
Gan gydnabod y rhwystrau a wynebir wrth gysylltu â rhywogaethau swil a bregus, mae dull curadu Addo yn eu hail-lunio, nid fel rhai anhygyrch ond fel catalyddion ysbrydoledig ar gyfer deialog gymunedol, lles, cysylltiad emosiynol a mynegiant diwylliannol.
Mae eu dull yn pontio bydoedd ecoleg, cymuned a chreadigrwydd, gan ddefnyddio'r celfyddydau i weld yr hyn sy’n anweledig a chryfhau lleisiau rhywogaethau a phobl sy'n aml yn cael eu hepgor o naratifau prif ffrwd.
Roedd y gwaith o gomisiynu tîm o Artistiaid Cyswllt i weithio mewn lleoliadau allweddol ledled Cymru yn ganolog i'r weledigaeth hon. Addo oedd yn gyfrifol am arwain y broses ddethol a darparu mentora a chefnogaeth barhaus, gan osod pob artist o fewn cyd-destun cymunedol ac ecolegol penodol. Drwy’r model hwn sy’n seiliedig ar le, bu artistiaid yn cyd-greu gweithiau sy’n adlewyrchu cyfoeth profiad lleol, gan roi llais i rywogaethau mewn perygl a’r cymunedau sy’n rhannu eu cynefinoedd. Llwyddodd Addo i feithrin ysbryd o arbrofi, gofalu a chydweithio — gan gefnogi'r artistiaid i gynhyrchu gwaith sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y lle ac sy'n uchelgeisiol yn artistig.
Wrth i'r prosiectau ddatblygu, gweithiodd Addo gyda'r artistiaid a phartneriaid y prosiect i sicrhau bod y canlyniadau'n hygyrch i gynulleidfa ehangach, gan gefnogi lledaeniad y gwaith drwy archif ddigidol Casgliad y Werin Cymru a gwefan newydd Natur am Byth.
Mae'r canlyniadau o ansawdd uchel hyn yn adlewyrchu amrywiaeth a chreadigrwydd yr artistiaid a'r cymunedau dan sylw, a hefyd ar yr un pryd yn ymgorffori gwerthoedd craidd y rhaglen: cynhwysiant, dwyieithrwydd ac etifeddiaeth barhaol.
Mae Rhaglen Ymgysylltu â’r Celfyddydau Natur am Byth yn hyrwyddo rôl artistiaid wrth ddatgelu’r anweledig, dathlu’r bychan a’r bregus, ac adfer cysylltiadau hanfodol rhwng pobl a’r byd naturiol.
Gan adeiladu ar lwyddiant y cam cychwynnol, mae rôl Addo bellach wedi cael ei hymestyn i gefnogi ymgysylltu cymunedol pellach ac i guradu arddangosfa gyhoeddus bwysig yn Nhŷ Pawb – canolfan ddiwylliannol ddeinamig yn Wrecsam. Bydd yr arddangosfa hon yn arddangos y corff rhyfeddol o waith celf a gynhyrchwyd drwy’r rhaglen, gan greu llwyfan cenedlaethol ar gyfer y lleisiau, y rhywogaethau a’r straeon sydd wedi dod i’r amlwg o’r cydweithrediad arloesol hwn rhwng celf a chadwraeth.
Gallwch gwilio y digwyddiad llawn, yn cynnwys ffilmiau fer o pob artist, yn ogystal a negeseuon o'n arianwyr, yma.